Search This Blog

Tuesday, April 2

B.O.R.I.N.G.

^^^na beth yw'r blog ma!
Sai byth yn sgwennu- ar unrhyw flog!
Os i chi moen clywed mwy ambiti fi (ac os i chi'n bored o'r blogiau), dilynnwch fi ar:

Instagram, Gifboom a Twitter: @starry_maz
Goodreads a Pinterest: Mared Owen

Os i chi'n nabod fi gallwch chi ddilyn fi ar FB a Google+

Fi ar [bron] popeth basically!

Arholiad gradd 5 telyn heddi, popeth wedi mynd yn iawn, steddfode di bod,a rhedeg- popeth!

Trwyddo ar yr unawd, ymgom, cor a pharti merched i'r genedlaethol.

2il yn y gystadleuaeth ymgom llynedd (mwy na blwyddyn ers i fi sgwennu ar y blog ma)

1af yn yr unawd eleni yn yr eisteddfod ysgol- ond Peniarth yn dod yn ail i Llwydiarth y tro 'ma! Dim ond achos 'i bod nhw wedi neud miloedd o sgribls ar bapur (ma nhw'n galw fe'n 'waith cartref')- record breaking, yn ôl syr! Hy, wel falle bod nhw di neud llwyth o waith cartref, ond wedi ennill bron dim. Oleua' bod Peniarth yn gwneud gwaith cartref o safon! Peniarth ennillodd y goron Gymraeg a Saesneg, a'r gadair Gymraeg!!! Dim ond 4 gwobr fel na odd, a ni d cipio 3! Yn ogystal, Peniarth ennillodd y Llwyfan (o bell ffordd), tlws y dawnsio gwerin, a thlws y llefaru!

Odd cheek da nhw weud bod Llwydiarth di ennill!!

A wel, tra am y tro!